DWLP04

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision

Ymateb gan Cymwysterau Cymru | Evidence from Qualifications Wales

05 Ebrill 2024

Annwyl Bwyllgor

 

Mae Cymwysterau Cymru yn croesawu'r cyfle i ddarparu tystiolaeth i'r Pwyllgor.

Yn y dystiolaeth hon, rydym yn darparu gwybodaeth gefndir lefel uchel sy'n disgrifio ein gwaith i gynyddu'r ystod o gymwysterau sydd ar gael yn y Gymraeg ac esbonio'r her ariannu gyfredol.

Bydd yr wybodaeth hon yn cyfrannu at eich dealltwriaeth o sut y bydd penderfyniadau ynghylch cyllid yn y dyfodol ar gyfer datblygu darpariaeth ôl-16 yn y Gymraeg yn effeithio ar daflwybr a thargedau Cymraeg 2050.

Adolygiadau sector

Ers ein sefydlu, yn 2015, rydym wedi cynnal adolygiadau rheolaidd o wahanol sectorau cyflogaeth (adolygiadau sector) i ddeall a yw cymwysterau a'r system gymwysterau yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr. Wrth wneud hynny, rydym yn ystyried yr holl faterion a nodir yn Neddf Cymwysterau Cymru 2015 – gan gynnwys:

‘dymunoldeb hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys drwy argaeledd trefniadau asesu sy’n darparu ar gyfer asesu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac argaeledd cymwysterau sydd fel arall yn hyrwyddo neu’n hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg’

Yn dilyn adolygiad sector, efallai y byddwn yn ymgymryd â diwygiadau sylweddol, fel y gwnaethom gydag 'Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys Gofal Plant' ac 'Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig'. Yn y sectorau hyn, gan weithio gyda phartneriaid fel Gofal Cymdeithasol Cymru, gwnaethom ganfod yr angen am gyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru. Pan fyddwn yn gwneud diwygiadau o'r math yma, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu sicrhau bod y cymwysterau newydd, a'r holl adnoddau ategol, ar gael yn Gymraeg.

Efallai na fydd adolygiadau sector yn arwain at ddiwygiadau mawr ond mae’n bosibl y byddant yn tynnu sylw at gymwysterau penodol y mae galw amdanynt ond nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Mewn achosion o'r fath, rydym yn gweithio'n agos gyda'r cyrff dyfarnu perthnasol i'w hannog i sicrhau eu bod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac efallai y byddwn wedyn yn cefnogi hyn drwy ein cynllun grant.

Cynllun grant cyfrwng Cymraeg

Ers 2016, mae Cymwysterau Cymru wedi sicrhau bod cynllun grant ar gael i gyrff dyfarnu fel y gallant gynyddu'r ystod o gymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg. Yn y cyfnod hwn mae nifer y cymwysterau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, lle mae galw, wedi cynyddu'n sylweddol.  

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth strategol. Mae hyn wedi ein galluogi i dargedu ein cynllun grant yn fwy effeithiol fel bod y ddau sefydliad yn gweithio mewn modd cydlynol.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu adnoddau amrywiol i gefnogi cyrff dyfarnu ac wedi sefydlu grwpiau cymorth rheolaidd. Mae gennym hefyd grŵp penodol o randdeiliaid Cymraeg sydd, ynghyd â'n gwaith partneriaeth, yn ein helpu i dargedu ein cynllun grant yn unol ag anghenion dysgwyr a chanolfannau.

Mae'r camau hyn wedi cynyddu'r galw am y cynllun grant yn sylweddol ac rydym wedi mynd o sefyllfa o danwariant yn erbyn darpariaeth y gyllideb i alw sylweddol am y cynllun sy'n uwch na’r arian sydd gennym ar gael.

Cyllid

Ochr yn ochr â'r sector cyhoeddus cyfan, rydym yn wynebu galwadau sylweddol ar y cyllid sydd ar gael i ni. Bob blwyddyn rydym yn darparu cynllun grant cyfrwng Cymraeg o £180k.

Cyn 2023/24 roedd y dyraniad hwn o gyllid yn fwy na’r swm a hawliwyd gan gyrff dyfarnu. Fodd bynnag, yn 2023/24 rydym yn rhagweld y bydd y swm a hawlir yn agosach at £230k.

Rydym wedi gallu derbyn ceisiadau gan gyrff dyfarnu am hyd at £250k wrth i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol hyd at £70k os nad oeddem yn gallu ariannu'r cynllun grant mwy ein hunain. Yn 2024/25 rydym yn rhagweld y bydd y galw am y cynllun yn tyfu eto, ac ar hyn o bryd rydym yn rhagweld y gallai ceisiadau am gyllid grant fod mor uchel â £300k. Yn debyg i'r llynedd, rydym wedi sicrhau cytundeb gan Lywodraeth Cymru y byddan nhw'n darparu cyllid ychwanegol os bydd angen.

Er ein bod yn ddiolchgar am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol os oes angen, mae'r cynnydd mewn ceisiadau am grantiau yn dangos bod ein gwaith i hyrwyddo argaeledd cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gweithio ac yn debygol o fod angen cyllid ychwanegol yn y dyfodol.

Mae argaeledd cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg yn strategol bwysig i dwf addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Mae llawer o heriau o ran cynyddu'r ystod o gymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg, yn anad dim y galw isel am lawer o gymwysterau ôl-16 (mae gan fwyafrif helaeth y cymwysterau ôl-16 lai na 100 o ardystiadau i gyd).

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i gynyddu'r ystod o gymwysterau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a chefnogi darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg.

Yn gywir

 

 

 

Philip Blaker 

Prif Weithredwr